Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Committee for the Scrutiny of the First Minister

 

 

Carwyn Jones AC

Prif Weinidog

Llywodraeth Cymru

 

                                                                  

25 Mawrth 2013

 

 

 

 

 

 

 

                                          
Annwyl Brif Weinidog

 

Cyfarfod y Pwyllgor ar 27 Chwefror 2013

 

Mae’r Pwyllgor yn ddiolchgar i chi a’ch swyddogion am ddod i’r sesiwn graffu ar 27 Chwefror, ynghylch gweithrediadau’r Uned Gyflawni a dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran lleihau tlodi plant.  

 

Cododd nifer o faterion yn ystod ein trafodaethau y byddem yn croesawu cael rhagor o wybodaeth ac eglurder yn eu cylch.

 

Uned Gyflawni’r Prif Weinidog

 

Dywedasoch fod nifer o adegau wedi bod pan oedd yr Uned Gyflawni wedi tynnu eich sylw at faterion penodol, ond nad oedd modd i chi roi rhagor o fanylion yn eu cylch gan nad oeddech am “siarad am fusnes y Llywodraeth yn gyhoeddus”. Nodwn eich pryderon, ond heb enghreifftiau, rydym yn ei chael hi’n anodd deall sut y mae’r Uned Gyflawni yn gweithredu, heb sôn am asesu ei heffeithiolrwydd yn y sefyllfaoedd hynny pan na fydd Adrannau’r Llywodraeth yn perfformio cystal.

Nodwyd hefyd yr hyn a ddywedasoch, bod yr Uned yn cael ei beirniadu pan fydd y Llywodraeth yn darparu o ran ei Rhaglen Lywodraethu ar ddiwedd ei thymor. Rydym yn pryderu rywfaint o adael y mater tan ddiwedd y Cynulliad hwn cyn y caiff effeithiolrwydd yr Uned ei werthuso. Credwn y dylid monitro ei pherfformiad yn fwy parhaus ac mewn modd mwy tryloyw.

 

Roedd yn ymddangos eich bod yn derbyn yr awgrym o bosibl y byddai’n haws mesur llwyddiant yr Uned Gyflawni pan fyddai’n adnabod unrhyw ddiffyg darparu a sut y bydd yn gweithredu yn y sefyllfaoedd hynny. Hoffem pe bai modd i chi ystyried sut y gallwch adrodd wrth y Pwyllgor ar yr agwedd hon ar weithrediad yr Uned fel y gallwn gyflawni ein rôl o graffu ar eich portffolio.

 

Roedd gennym ddiddordeb clywed gan yr Ysgrifennydd Parhaol, ei fod ef wedi sefydlu grŵp sydd â’r cyfrifoldeb dros wella gwaith yr Uned Gyflawni a’r pwyslais mawr ar ddarparu o fewn Llywodraeth Cymru. Byddem yn croesawu cael rhagor o wybodaeth am gyfansoddiad, cylch gwaith a gweithgareddau’r grŵp hwnnw.

 

Aethpwyd ymlaen i drafod set sgiliau’r staff yn yr Uned Gyflawni, a dywedwyd wrthym fod y swyddogion hynny wedi’u trwytho mewn gwaith datblygu polisïau. Er ein bod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y ffaith bod gan staff sgiliau datblygu polisïau, credwn fod angen iddynt hefyd ddangos yr hyn y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Parhaol ato fel cylchoedd polisi a darparu (ein pwyslais ni ). Byddem yn croesawu cael rhagor o wybodaeth am brofiad y staff sy’n gweithio yn yr Uned Gyflawni o ran archwilio a gwerthuso.

 

Yn olaf, cawsom drafodaeth eithaf hir ar faint a chymhlethdod adroddiad blynyddol y Rhaglen Lywodraethu, a gaiff ei olygu gan yr Uned Gyflawni. Cytunwn â chi ei bod yn bwysig bod rhanddeiliaid, gan gynnwys ni fel Pwyllgor, yn craffu’n fanwl ar waith adrannau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw’n eglur i ni sut y mae modd defnyddio’r adroddiad, yn ei ffurf presennol, i “allu gwerthuso ar unrhyw adeg effaith ein polisïau”, i ddyfynnu o’ch Datganiad Ysgrifenedig y Cabinet yn 2011. Nid ydym ychwaith yn glir ynghylch rôl yr Uned Gyflawni o ran penderfynu ar y dangosyddion a’r camau mesur y dylid eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol.   

 

Efallai mai un ffordd o fesur effeithiolrwydd yr Uned Gyflawni fyddai gweld ei gallu i ddadansoddi a chrynhoi’r adroddiad blynyddol i fformatau haws eu deall. Byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi ystyried hyn a’r pwyntiau eraill a nodwyd yn y paragraff uchod, ac awgrymu’r ffordd orau o’u rhoi ar waith.

 

Tlodi Plant

 

Mae lleihau tlodi plant yn un o’r heriau pwysicaf a wynebir yng Nghymru. Er gwaetha’r drafodaeth a gawsom ar y mater, rydym yn bryderus o hyd ynghylch y bwlch sydd yn nhrefniadau mesur a monitro tlodi plant Llywodraeth Cymru, a bu hyn yn wir dros y tair blynedd ddiwethaf.

 

Soniwyd nad oes gennych unrhyw gynlluniau i newid dulliau Llywodraeth Cymru o fesur tlodi plant ac amlinellwyd bod y dangosyddion blaenorol “fwy neu lai” wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Llywodraethu. Dywedasoch hefyd eich bod wedi gofyn i’r Sefydliad Polisi Newydd edrych ar y strategaeth tlodi plant ac y bydd data newydd a ddarperir yn sgîl ei waith ar gael cyn toriad yr haf.

 

Credwn fod newidiadau i’r modd y caiff y cynnydd a wneir i drechu tlodi plant ei fesur ers i Lywodraeth Cymru yn 2006 gyhoeddi ei chyfres o 30 dangosydd yn ei dogfen Dileu Tlodi Plant yng Nghymru – Mesur Llwyddiant  yn arwain at ddiffyg craffu ar berfformiad y Llywodraeth yn y maes hwn.

 

Byddem yn croesawu cael rhagor o wybodaeth gennych am a) y rhesymeg dros newid dangosyddion tlodi plant Llywodraeth Cymru ers 2006, (b) y data gan y Sefydliad Polisi Newydd a (c) beth y disgwyliwch y bydd y data hwn yn ei ychwanegu at y trefniadau monitro presennol.

 

Roeddem hefyd yn bryderus iawn o’ch clywed yn dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru yn syml, yr offer i sicrhau y byddwn yn gallu cyrraedd targedau tlodi plant. Gwerthfawrogwn fod dileu tlodi plant yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng Cymru a San Steffan, ond nid yw’n gredadwy yn ein barn ni bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio hyn fel alibi ar gyfer darparu mewn meysydd y mae hi ei hun yn gyfrifol amdanynt.

 

Siaradwyd am y cynnydd da sy’n cael ei wneud yn yr Alban ac fe’n calonogwyd o glywed y byddwch yn edrych beth sydd wedi’i gyflawni yno a pham bod Llywodraeth yr Alban wedi bod mor effeithiol. Gwnaethoch gytuno i ysgrifennu atom yn rhoi eich safbwynt ar y mater hwn, ond hoffem pe bai modd i chi gynnal adolygiad mwy trylwyr o esiampl yr Alban, a beth y gallai Cymru ei ddysgu o’r dull gweithredu a ddilynwyd yno. Hoffem hefyd pe bai modd i chi ysgrifennu atom i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y drafodaeth a gafwyd yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ddiweddar.

 

Yn fwyaf sylfaenol, trafodwyd bod tlodi plant yn cyffwrdd â chynifer o adrannau a meysydd polisi’r Llywodraeth, a dywedasoch wrthym fod tlodi plant yn cael sylw fel rhan o strategaeth y Llywodraeth o ran tlodi’n gyffredinol.Nodwn, yn sgîl ad-drefniad y Cabinet yn ddiweddar, fod gan un Gweinidog gyfrifoldeb dros lawer o faterion sy’n gysylltiedig â phlant a hefyd am drechu tlodi, ond rydym am gael sicrwydd bod ffocws polisi penodol ar dlodi plant o fewn portffolio’r Gweinidog. Hoffem pe baech yn galw am osod ail-ffocws pendant ar dlodi plant, gyda phenderfynoldeb newydd.


Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymateb i’r pwyntiau a nodwyd gennym. Caiff ein llythyr ni a’ch ymateb iddo eu cyhoeddi ar ein gwefan.

 

Yn gywir      

 

David Melding AC

Cadeirydd, y Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog